Saer Aml-sgiliauRydyn ni'n awyddus i benodi Saer Coed cymwys i ymuno â thîm y Sefydliad Llafur Uniongyrchol (DLO) yn yr adran Ystadau. Byddwch chi’n gweithio mewn gweithle prysur lle na fydd dau ddiwrnod yr un fath, gan helpu i ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw rhagorol yn uniongyrchol i'n cwsmeriaid.
Hoffem glywed gennych os ydych chi’n:
- Cymhwyster cydnabyddedig yn dilyn cwblhau prentisiaeth ym maes Gwaith Saer ac Asiedydd, cymhwyster NVQ Lefel 3, cymhwyster City & Guilds neu gymhwyster cyfatebol.
- Profiad o weithio ym maes cynnal a chadw ymatebol.
- Gallu gweithio yn rhan o dîm ac yn annibynnol.
- Mae ar gael i gymryd rhan mewn rota ‘ar alwad’ gorfodol o 1 wythnos ym 5
- Gallu cyfathrebu a rhoi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.
Gallwn gynnig cyfle i chi weithio mewn sefydliad bywiog sy’n cynnig
buddion gwych a chyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Rydym yn falch o gefnogi'r Cyflog Byw.
Swydd amser llawn, 35 awr yr wythnos, a phenagored yw hon. Yr oriau gwaith arferol yw 8am tan 4pm, gydag awr i ginio.
Cyflog cychwynnol: £33,348.52 y flwyddyn yn codi i £34,290.40 ar 1 Awst ar ôl blwyddyn o wasanaeth llawn.
Mae'r cyflog uchod yn cynnwys lwfans o £3,389.52 y flwyddyn, mewn rhandaliadau misol cyfartal, i dalu am y canlynol:
o Bydd gofyn i chi weithio 1 wythnos ym mhob 5 ar y rota ar alwad: -
o Bydd yn rhaid i chi weithio awr ychwanegol bob dydd rhwng 4pm a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener,
o Byddwch wrth law ac ar alwad ar benwythnosau rhwng 8am ddydd Sadwrn a 8am ddydd Llun. Byddwch hefyd yn cael eich talu am unrhyw waith ychwanegol a wneir yn ystod eich cyfnod ar alwad yn unol â Pholisi Taliadau Uwch Gradd 1-4 y Brifysgol.
Ymhlith y manteision y mae:-
• Wythnos waith 35 awr rhwng 8am a 4pm.
• 32 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc.
• Cynllun pensiwn â chyfraniadau cyflogwr hael.
• Tâl ychwanegol posibl wrth ymuno â rota 'ar alwad' y tîm cynnal a chadw a thâl goramser posibl (yn dibynnu ar anghenion busnes).
• Hyfforddiant sy’n bwrpasol i gefndir eich crefft.
• Cerbyd cwmni i deithio rhwng safleoedd bob dydd ac i deithio rhwng y gwaith a'r cartref pan fyddwch chi 'ar alwad'.
• Gwisg cwmni/cyfarpar diogelu personol (PPE).
• Tâl salwch.
• Mae ein cynllun Beicio i’r Gwaith yn galluogi gweithwyr i brydlesu beiciau ac offer diogelwch cysylltiedig gwerth hyd at £3,000 drwy gynllun Aberthu Cyflog.
• Y cynllun Benthyciadau Teithio ar gyfer Tocynnau Tymor Blynyddol sy’n eich galluogi i wneud cais am fenthyciad di-log gan y Brifysgol, a fydd yn prynu tocyn tymor blynyddol ar eich rhan Bydd y swm hwn yn ad-daladwy dros gyfnod o 10 mis
• Cyfraddau is ar aelodaeth chwaraeon
• Y gallu i fanteisio ar fwy na 90 o ostyngiadau a bargeinion i’r staff
• Gofal plant am bris gostyngol
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Yr hyn y gallwn ei gynnig - Swyddi - Prifysgol Caerdydd
Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig ar sail gweithio ar y safle, sy'n golygu y byddwch chi’n treulio'ch holl amser yn gweithio ar y campws. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gynnig hyblygrwydd, lle bynnag y bydd anghenion y swydd a’r busnes yn caniatáu hynny, er mwyn cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae angen trwydded yrru ddilys gan ei bod yn amod cyflogaeth bod yr holl bersonél yn gallu defnyddio cerbydau fflyd y brifysgol i gyrraedd holl safleoedd y Brifysgol.
Cysylltwch â Peter Aleman (alemanp@caerdydd.ac.uk) am drafodaeth anffurfiol a chyfrinachol am y swydd.
PWYSIG: Mae Manyleb yr Unigolyn wedi’i rhannu’n 2 adran: hanfodol a dymunol. Dangoswch yn glir sut ydych yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol. Lle bo modd, dylech roi enghreifftiau o sut, pryd a ble rydych wedi defnyddio eich profiad, eich gwybodaeth, eich sgiliau penodol a’ch galluoedd yn unol â gofynion y swydd benodol hon.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfleu hyn yn llawn drwy ddatblygu datganiad i gefnogi eich cais, gan restru’r HOLL FEINI PRAWF a rhoi sylwadau wrth bob un sy’n nodi sut y gwnaethoch eu bodloni.
Rhaid cwblhau’r datganiad cyn dechrau gwneud eich cais ar-lein oherwydd bydd yn rhaid i chi ei uwchlwytho. Pan fyddwch yn uwchlwytho’r datganiad ategol, mae angen enwi’r ddogfen yn “datganiad ategol” a dylai’r teitl hefyd gynnwys cyfeirnod y swydd:
20313BRDyddiad hysbysebu: Dydd Llun, 7 Gorffennaf 2025
Dyddiad cau: Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2026
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a sicrhau gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.
Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae seiri yn chwarae rhan hanfodol mewn Sefydliad Llafur Uniongyrchol (DLO) brwdfrydig ac arloesol, gan wneud gwaith cynnal a chadw i ymateb i ddigwyddiadau, gwaith wedi'i gynllunio a gwaith mesurau atal, gwaith canfod namau, a chymorth y tu allan i oriau gwaith ar gyfer yr holl adeiladau a gweithrediadau a systemau sifil yr Ystad.